Mae’r awdurdodau’n cyfaddef iddyn nhw wneud “camgymeriad” wrth roi’r hawl i frawychwr Christchurch anfon llythyr o’i gell.

Mae Brenton Tarrant wedi’i gyhuddo o ladd 51 o bobol mewn dau fosg yn Seland Newydd.

Cafodd llythyr chwe thudalen ei gyhoeddi ar y wefan 4chan, gwefan goruchafiaeth pobol â chroen gwyn, yr wythnos hon.

Fe ddaw’r llythyr wrth i lofruddwyr o El Paso i Norwy gydnabod fod Brenton Tarrant wedi eu hysbrydoli.

Mae’r llythyr wedi’i lunio â phensil ar lyfr nodiadau bach, ac wedi’i gyfeirio at ‘Alan’ yn Rwsia.

Mae’n trafod ymweliad Brenton Tarrant â Rwsia yn 2015, ond mae hefyd yn rhybuddio bod “gwrthdaro mawr” ar y gorwel.