Mae o leiaf 30 o bobol wedi cael eu lladd yn dilyn teiffŵn grymus yn ne-ddwyrain Tsieina.

Mae 20 o bobol yn dal ar goll, a chartrefi wedi cael eu dinistrio yn dilyn tirlithriad wrth i afon orlifo yn nhalaith Zhejiang.

Cafodd mwy na miliwn o bobol eu symud o’u cartrefi yn barod ar gyfer y digwyddiad, gan gynnwys 253,000 o bobol yn Shanghai.

Cododd lefel yr afon i 33 metr o fewn deng munud i’r tirlithriad, ac fe aeth 120 o bobol yn sownd ar gyrion dinas Wenzhou.

Mae Disneyland China ynghau, ac mae mwy na 3,000 o deithiau awyr a gwasanaethau trên mewnol wedi cael eu heffeithio.