Mae cyfyngiadau ar drigolion dinas Srinagar yn Kashmir wedi cael eu llacio ar gyfer dathliadau Eid, yr ŵyl Foslemaidd, ond does ganddyn nhw ddim rhyngrwyd am y seithfed diwrnod yn olynol.

Daw’r cyfyngiadau wrth i India benderfynu cosbi’r rhanbarth a diddymu ei awdurdod.

Yn ôl Rahul Gandhi, arweinydd yr wrthblaid, mae trais yn y rhanbarth o hyd, a phobol yn dal yn marw.

Mae’n galw erbyn hyn am eglurder gan lywodraeth India, wrth i’r Gweinidog Cartref G Kishan Reddy ddweud ei fod yn disgwyl i’r sefyllfa fod yn “gwbl heddychlon” o fewn 15 niwrnod.

Pacistan yn gwrthwynebu India yn y rhanbarth

Yn y cyfamser, mae disgwyl i lywodraeth Pacistan godi mater Kashmir gyda Chyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig.

Fe allen nhw hefyd droi at y Comisiwn Hawliau Dynol tros “hil-laddiad” trigolion Kashmir yn ystod yr anghydfod diweddaraf yn y rhanbarth sy’n croesi ffiniau’r ddwy wlad.

Fe fu rheolaeth tros Kashmir yn asgwrn y gynnen rhwng India a Phacistan ers degawdau.

Mae rhan fwya’r trigolion am fod yn annibynnol neu uno â Phacistan.