Mae o leiaf 62 wedi eu lladd ar ôl i dryc tancer oedd wedi ei ddifrodi ffrwydro yn Tanzania wrth i bobol geisio seiffon tanwydd ohono.

Dyma’r digwyddiad gwaethaf o’i fath erioed yn y wlad Affricanaidd.

Cyhoeddodd cwmni darlledu KBC fod o leiaf 70 yn rhagor o bobol wedi eu hanafu yn y digwyddiad yn gynnar y bore yma yn nhref ddwyreiniol Morogoro.

Dywedodd y comisiynydd heddlu rhanbarthol Steven Kabwe fod llawer wedi dioddef llosgiadau difrifol.

Ffrwydriad

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Tanzania Hassan Abbasi said eu bod yn anfon eu cydymdeimladau i’r teuluoedd, perthynasau a ffrindiau.

Mae Morogoro tua 120 milltir o Dar es Salaam. Dywedodd llygad dystion fod nifer o bobol wedi ymgasglu o amgylch y tancer tanwydd wedi i’r tryc fod mewn damwain. Dywedon nhw fod pobol yn ceisio seiffon y tanwydd pan ffrwydrodd y fflamau.

Mae digwyddiadau ble mae pobol yn cael eu lladd mewn ffrwydradau tra’n ceisio dwyn tanwydd o danceri tebyg yn eithaf arferol yn nwyrain yr Affrig.

Yn 2013, bu farw o leiaf 29 o bobl mewn digwyddiad tebyg ger prifddinas Uganda, Kampala.