Mae dau ddyn o wledydd Prydain wedi cael eu harestio yn Seland Newydd ar ôl i’r heddlu ddod o hyd i gyflenwad sylweddol o’r cyffur methamphetamine a allai fod yn werth degau o filiynau o bunnoedd.

Cafodd y ddau ddyn, sy’n 60 oed a 49 oed, eu harestio gan yr awdurdodau mewn fflat yn Auckland. Roedd yr heddlu yn targedu sefydliad troseddol sy’n gweithio yn Seland Newydd fel rhan o’r hyn sy’n cael ei alw’n ymgyrch Essex.

Dywedodd swyddogion yr heddlu bod y cyrch yn un o’r mwyaf erioed yn Seland Newydd.

Daeth yr heddlu o hyd i focsys yn cynnwys 441 pwys (200kg) o meth oedd yn werth tua £76m.

Mae’r ddau ddyn yn parhau yn y carchar ac wedi’u cyhuddo o fod a methamphetamine yn eu meddiant gyda’r bwriad o’i gyflenwi.