Fe fu’n rhaid i oddeutu 200 o bobol adael eu cartrefi yn dilyn tirlithriad mewn tref fynyddig yn yr Eidal.

Mae lluniau sydd wedi cael eu rhyddhau gan yr awdurdodau yn dangos strydoedd llawn mwd yn nhref Casargo, sydd uwchben Llyn Como yn rhanbarth Lombardy yng ngogledd y wlad.

Yr hyn a achosodd y tirlithriad, mae’n debyg, oedd glaw trwm ar nos Fawrth (Awst 6).

Yn ôl diffoddwyr tân, dydyn nhw ddim wedi derbyn unrhyw adroddiadau am bobol sydd wedi eu hanafu, hyd yn hyn, ac maen nhw’n dal i geisio clirio’r llanast.

Dywed grŵp ymgyrchu amaethyddol o’r enw Coldiretti nad oes modd cyrraedd rhai ffermwyr sy’n byw uwchben y dref oherwydd bod y ffyrdd wedi cael eu hatal.