Mae’r awdures Toni Morrison, a enillodd Wobr Nobel, wedi marw yn 88 oed.

Dywedodd ei chyhoeddwyr Alfred A Knopf ei bod wedi marw yng Nghanolfan Feddygol

Montefiore yn Efrog Newydd nos Lun (Awst 5).

Toni Morrison oedd y ddynes ddu gyntaf i gael y Wobr Nobel am lenyddiaeth yn 1993.

Fe enillodd ei nofel Beloved wobr Pultizer yn 1988.