Mae dynes wedi cael ei saethu’n farw gan blismon yn nhalaith Tecsas yn yr Unol Daleithiau, wrth iddo geisio saethu ci oedd yn rhedeg tuag ato.

Roedd yr heddlu’n ymateb ar y pryd i bryderon am Margarita Victoria Brooks, dynes 30 oed oedd yn gorwedd ar lawr, ac roedd lle i gredu ei bod hi’n anymwybodol.

Wrth iddyn nhw roi sylw iddi, dechreuodd y ci redeg at y plismon ac fe saethodd ato dair gwaith.

Mae lle i gredu mai ci’r ddynes oedd e.

Mae’r ci bellach yng ngofal yr awdurdodau ar ôl cael ei glwyfo.

Dyma’r tro cyntaf i’r plismon ddefnyddio’i ddryll, yn ôl yr awdurdodau, ac mae e wedi cael ei symud o’i swydd am y tro wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.