Mae dyn wedi saethu chwech o bobol yn farw yn Zagreb, prifddinas Croatia, cyn iddo droi’r gwn arno’i hun.

Ymhlith y chwech roedd bachgen 10 oed, tair dynes a dau ddyn – fe gafodd babi saith mis oed ei ddarganfod yn saff ar y safle.

Cafodd y cyrff eu darganfod yn hwyr nos Iau (dydd Iau, Awst 1) ac fe laddodd y saethwr ei hun ar ôl i’r heddlu chwilio amdano ar draws y ddinas heddiw (Dydd Gwener, Awst 2).

Mae cyfryngau Croatia wedi adrodd bod cyn-wraig y saethwr a’i phartner ymhlith y rhai gafodd eu saethu.