Awyren tornado
Fe fydd lluoedd o wledydd Prydain yn aros yn Libya “cyhyd ag y bo angen”, meddai’r Ysgrifennydd Tramor.

Fe ddywedodd William Hague wrth Dŷ’r Cyffredin bod y wlad “wedi ei thrawsnewid yn sylweddol” ond fe ddywedodd y byddai’r milwyr Prydeinig yn parhau i gefnogi’r llywodraeth newydd, tra’u bod nhw eisiau hynny.

Fe ddatgelodd bod awyrennau a hofrenyddion Prydeinig wedi ymosod 3,000 o weithiau ar Libya ac wedi distrywio neu ddifrodi 1,000 o dargedi.

‘Ymladd dwys’ yn parhau

Roedd yn cyfadde’ bod “ymladd dwys” yn parhau yng nghadarnleoedd ola’r Cyrnol Gaddafi, ac nad oedd sicrwydd ym mhle’r oedd y cyn arweinydd.

Fe fyddai’r Cyngor Trawsnewid Cenedlaethol yn cyhoeddi bod Libya’n “rhydd” unwaith y byddai tref Sirte, tref enedigol y Cyrnol Gaddafi, wedi syrthio, meddai.

Roedden nhw wedi addo ffurfio llywodraeth tros dro o fewn 30 niwrnod a chynnal etholiadau o fewn wyth mis.