Mae tri o bobol wedi eu lladd a 15 o bobol eraill wedi’u hanafu ar ôl i ddyn arfog danio gwn atyn nhw mewn gŵyl fwyd yng Nghaliffornia, meddai’r heddlu.

Cafodd y dyn sy’n cael ei amau o’u lladd ei saethu’n farw gan yr heddlu yn yr ŵyl yn ninas Gilroy. Mae adroddiadau bod dyn arall hefyd yn gysylltiedig a’r digwyddiad.

Roedd y dyn wedi cael mynediad i’r ŵyl, oedd a threfniadau diogelwch tynn, drwy dorri twll mewn ffens.

Roedd yr heddlu wedi amgylchynu’r dyn o fewn munud i’r gwn gael ei danio.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn ystod gŵyl y Gilroy Garlic Festival yn y ddinas, sydd tua 80 milltir i’r de ddwyrain o San Francisco. Mae’r ŵyl yn denu mwy na 100,000 o bobol dros gyfnod o dridiau.