Fe fydd cynrychiolwyr o nifer o wledydd yn cyfarfod â chynrychiolydd o Iran yn Fienna i drafod sefyllfa niwclear y wlad.

Fe fydd nifer o wledydd Ewropeaidd, Tsieina a Rwsia yn cymryd rhan yn y trafodaethau, ar ôl i Iran storio mwy o ddeunydd niwclear nag sy’n gyfreithlon.

Ond mae Iran yn mynnu y byddan nhw’n lleihau eu storfeydd os yw gwledydd yr Undeb Ewropeaidd yn gwneud cynigion i leihau effaith y sancsiynau sydd wedi’u cyflwyno gan yr Unol Daleithiau.

Dydy’r Unol Daleithiau ddim bellach yn rhan o’r cytundeb niwclear, ac maen nhw wedi anfon mwy o filwyr i’r wlad.