Mae dyn wedi
Y salon lle digwyddodd y saethu (Llun cyhoeddusrwydd)
saethu wyth yn farw mewn salon trin gwallt prysur yn yr Unol Daleithiau lle’r oedd ei gyn wraig yn gweithio.

Mae un person arall yn ddifrifol wael yn dilyn y digwyddiad mewn tref dawel o tua 25,000 o bobol ar lan y môr yn ne California – tua 30 milltir o Los Angeles.

Ar ôl y gyflafan, fe redodd y dyn i mewn i gerbyd a gyrru i ffwrdd o Salon Meritage yn Seal Beach ond fe gafodd ei atal gan yr heddlu ar ôl tua hanner milltir.

Dyw ei enw ef na’r meirw ddim wedi eu cyhoeddi eto ond mae’r heddlu wedi datgelu ychydig rhagor o fanylion gan gynnwys y ffaith fod gan y dyn nifer o arfau.

Fe gafodd dyn ei stopio gan swyddogion heddlu  tua hanner milltir i ffwrdd  ac fe wnaeth ildio’n syth. Roedd ganddo sawl arf, meddai’r swyddog heddlu, Steve Bowles.

Yn ôl ffrindiau perchennog y salon, roedd y dyn ac un o weithwyr y salon yn arfer bod yn briod ond wedi bod trwy ysgariad chwerw.

Fe fu digwyddiad tebyg, ond llai difrifol, yng Nghymru yn ystod yr haf pan saethodd dyn at bobol mewn salon lle’r oedd ei gyn wraig yn gweithio – fe laddodd ei hun wedyn a ddechrau’r mis hwn fe gafwyd mab y ddau yn farw yn yr un fan.