Mae ‘cynllwynwyr’ yn cael eu cyhuddo o olygu adroddiadau gwyddonol am newid yr hinsawdd, er mwyn iddyn nhw ymddangos yn gredadwy.

Mae’r ymchwil yn edrych ar y math o ganlyniadau y mae defnyddwyr yn cael eu cyflwyno iddi wrth chwilio am dermau fel “geo-peirianneg” neu “addasiad hinsawdd” ar y we.

Fe edrychodd yr ymchwil gan Brifysgol RWTH Aachen yn yr Almaen ar 200 fideo ar newid hinsawdd ar blatfform YouTube, ac mae’n dangos fod dros hanner y fideos, 107 ohonyn nhw, yn cynnwys fideos sydd ddim yn cytuno â’r prif safbwyntiau gwyddonol ar y pwnc.

Roedd 16 o’r fideos yn gwadu bod newid hinsawdd yn bodoli oherwydd ymddygiad pobol, tra’r oedd 91 ohonynt yn lledaenu damcaniaethau conspirasi syml am beirianneg hinsawdd a newid yn yr hinsawdd.

“Mae’n frawychus canfod bod mwyafrif y fideos yn lledaenu conspirasi am wyddoniaeth a thechnoleg hinsawdd,” meddai awdur yr astudiaeth, Dr Joachim Allgaier, uwch ymchwilydd ym Mhrifysgol RWTH Aachen yn yr Almaen.

“Hyd yn hyn, mae ymchwil wedi canolbwyntio ar y fideos mwyaf gwylio, gan wirio eu cywirdeb gwyddonol.”

“Ond nid yw hyn yn dweud wrthym beth fydd defnyddiwr rhyngrwyd cyffredin yn ei gael, gan fod chwiliadau blaenorol a hanesion gwylio yn dylanwadu ar y canlyniadau.