Mae ymosodwyr yn gwisgo mygydau wedi ymosod ar gymudwyr, gan gynnwys protestwyr, mewn gorsaf fetro yn Hong Kong, yn ôl fideo a ddarlledwyd gan y cyfryngau lleol.

Dangosodd ffilm o Apple Daily fod yr ymosodwyr yn defnyddio ymbarelau i guro pobl yn yr orsaf a’r tu mewn i gerbyd trên.

Mae cymudwyr gafodd eu ffilmio gan Stand News ac iCABLE yn cyhuddo swyddogion yr heddlu o beidio ag ymyrryd yn yr ymosodiad.

“Mae hyn yn gwbl annerbyniol i Hong Kong fel cymdeithas sy’n cadw at reolaeth y gyfraith,” meddai llywodraeth Hong Kong, gan gyfeirio at weithredoedd yr ymosodwyr yn ogystal â’r protestwyr.

Dywedodd papur newydd dyddiol y People’s Daily mewn sylwebaeth ar y dudalen flaen bod gweithredoedd y protestwyr yn “annioddefol.”

Fe wnaeth un grŵp o brotestwyr dargedu swyddfa gyswllt China yn Hong Kong dros nos ar ôl i dros 100,000 o bobl orymdeithio drwy’r ddinas i fynnu democratiaeth ac ymchwiliad i’r defnydd o rym gan yr heddlu wrth wasgaru torfeydd mewn protestiadau cynharach.

Dyma’r gwrthdaro diweddaraf rhwng yr heddlu a phrotestwyr sydd wedi bod ar y strydoedd yn protestio yn erbyn bil estraddodi a galw am ddiwygiadau etholiadol.

Daeth yr orymdaith i ben yn ardal Wan Chai yn Hong Kong yn hwyr yn y prynhawn, ond parhaodd miloedd i orymdeithio mewn gwahanol lefydd gan feddiannu ardaloedd blaenllaw’r llywodraeth a busnesau. Aethon nhw wedyn at y Swyddfa Gyswllt, sy’n cynrychioli llywodraeth ganolog dan arweiniad Plaid Gomiwnyddol Tsieina yn y ddinas.

Dywedodd y trefnwyr fod 430,000 o bobl wedi cymryd rhan yn yr orymdaith, tra dywedodd yr heddlu fod 138,000 yno pan oedd yr orymdaith ar ei hanterth.