Mae dros 1,000 o ddiffoddwyr yn ceisio diffodd tanau gwyllt Portiwgal, sydd wedi anafu o leiaf naw o bobol.

Fe ddechreuodd y tanau ledled rhanbarth Castelo Branco ddoe (dydd Sadwrn, Gorffennaf 20).

Mae un person wedi cael ei gludo i’r ysbyty yn dilyn y tân cyntaf o’i fath yn y wlad eleni.

Cafodd 106 o bobol eu lladd mewn tân difrifol tebyg yn 2017, ac fe gafodd mesurau llymach eu cyflwyno, oedd yn golygu na fu farw unrhyw un yn sgil tanau gwyllt y llynedd.