Mae’r Almaen yn nodi 75 mlynedd ers y cynllwyn enwocaf i ladd Adolf Hitler, gan dalu teyrnged i’r rhai a gafodd eu dienyddio.

Ar ôl mynd i seremoni tyngu llw oddeutu 400 o filwyr Almaenig, bydd y Canghellor Angela Merkel yn annerch digwyddiad coffa yn yr adeilad lle cafodd y Cadfridog Claus von Stauffenberg ei ddienyddio.

Fe geisiodd e ladd yr unben Natsïaidd gyda bom mewn cês ar Orffennaf 20, 1944, ond fe oroesodd ar ôl i fwrdd atal y bom rhag ei ladd.

Cafodd y Cadfridog Claus von Stauffenberg a’i gyd-gynllwynwyr eu dienyddio o fewn oriau i’r digwyddiad, ac maen nhw bellach yn cael eu hystyried yn arwyr yn yr Almaen gyfoes.