Mae cangen o fyddin Iran wedi rhwystro “llong dramor” rhag hwylio ar hyd Ceufor Persia, yn ôl darlledwr teledu.

Dyw darlledwr gwladol Iran ddim wedi datgelu o ba wlad y daw’r llong, ond mae wedi dweud bod y llong wedi cael ei rhwystro ddydd Sul (Gorffennaf 14).

Mi ddiflannodd llong olew â baneri Panama arni nos Sul, ac mae cryn ddyfalu mai dyma’r llong sydd dan sylw.

Roedd y llong honno wedi bod yn hwylio ger Ynys Qeshm pan ddiflannodd – mae’r ynys yn gartref i un o bencadlysoedd Gwarchodlu Chwyldroadol Iran.

Yn ôl y darlledwr gwladol roedd 12 o bobol o dramor ar y llong, ac roedden nhw’n ceisio smyglo miliwn litr o olew o Iran.

Perthynas Iran â’r Unol Daleithiau

Daw hyn oll wrth i’r berthynas rhwng Iran a’r Unol Daleithiau droi’n fwy tanllyd.

Mae ffrae yn mynd rhagddi rhwng y ddwy ochr tros ddêl niwclear.