Mae byddin Swdan, sy’n rheoli’r wlad ar hyn o bryd, a’r protestwyr sydd y neu herbyn, wedi arwyddo dogfen fel rhan o gytundeb rhannu grym er mwyn rhoi diwedd ar broblemau gwleidyddol.

Fe arwyddodd y ddwy ochr – cynrychiolwyr o gyngor y fyddin a’r Lluoedd am Ddatgan Rhyddid a Newid, sy’n cynrychioli’r protestwyr ddatganiad gwleidyddol yn dilyn wythnosau heb sgwrs.

Mae hwn yn un o ddwy ddogfen sy’n rhan o’r cytundeb ac mae datganiad cyfansoddiadol yn debygol o gael ei lofnodi o fewn diwrnodau.

Cafodd y seremoni ei gynnal heddiw (dydd Mercher) ym mhrifddinas y wlad, Khartoum, ble ysgwyddodd y ddwy ochr ddwylo yn gytûn.

Mae’r arwyddion yn gam allweddol yn nhrawsnewidiad y wlad ar ôl misoedd o brotestiadau stryd a ysgogodd y milwyr i gael y gorau i’r llywodraethwr unbenaethol Omar al-Bashir a chymryd drosodd y wlad ym mis Ebrill.