Mae llifogydd a thirlithriadau yn parhau i achosi trafferthion yn ne Asia gyda nifer y meirwon wedi codi i 78 yn Nepal.

Mae’r awdurdodau yng ngogledd ddwyrain India hefyd yn brwydro i roi cymorth i dros bedair miliwn o bobol yn nhalaith Assam.

Yn ôl Canolfan Argyfwng Cenedlaethol Nepal mae dros 40,000 o filwyr a swyddogion yr heddlu yn defnyddio cerbydau a hofrenyddion i fynd a bwyd, llochesi a meddyginiaethau i’r miloedd o bobol sydd wedi’u heffeithio gan y llifogydd

Yn Assam, dywedodd swyddogion fod llifogydd wedi lladd o leiaf 19 o bobol ac wedi creu trwbl i 4.5 miliwn o bobol eraill.

Ym Mangladesh, mae o leiaf dwsin o bobol, ffermwyr yn bennaf, wedi cael eu lladd gan fellt ers dydd Sadwrn (Gorffennaf 13).