Y llong yn sownd (Llun Cyngor y Bay of Plenty)
Mae pryder y gallai trychineb olew Seland Newydd fynd o ddrwg i waeth.

Yn ôl adroddiadau lleol, mae rhagor o lwyth y llong Rena wedi llithro i’r môr sy’n golygu ei bod yn gogwyddo mwy fyth.

Fe allai hynny olygu bod y llong yn chwalu a bod rhagor o olew’n cael ei ollwng i’r môr yn ardal y Bay of Plenty , 14 milltir o Ynys y Gogledd.

Eisoes mae cannoedd o dunelli o olew trwm wedi llifo i’r môr – yn ôl Gweinidog Amgylchedd y wlad, Nick Smith, dyma’r trychineb amgylcheddol mwya’ o’i fath yn hanes Seland Newydd.

Mae capten y llong wedi cael ei arestio a’i gyhuddo ar ôl i’r llong fynd yn sownd ar rîff  a hynny mewn tywydd tawel.

Mae’r llong yn hwylio dan faner Liberia.