Novak Djokovic, y chwaraewr tenis o Serbia, yw pencampwr y dynion yng nghystadleuaeth y dynion yn Wimbledon.

Dyma’r pumed tro iddo fe ennill y gystadleuaeth, gan ddod yn gyfartal â Bjorn Borg.

Llwyddodd Novak Djokovic i amddiffyn dau bwynt buddugol wrth i Roger Federer weini i ennill y gêm gyda’r sgôr yn 8-7 yn y set olaf.

Daeth ei fuddugoliaeth ar ôl pedair awr a 57 munud.

Mae Novak Djokovic bellach wedi ennill pedair allan o’r pum brif gystadleuaeth ddiwethaf, ac mae e wedi ennill prif gystadleuaeth 16 o weithiau, o’i gymharu â’r 20 sydd gan Roger Federer.