Hillary Clinton - gweithredu
Mae’r Unol Daleithiau wedi defnyddio honiad am gynllwyn ‘bom mewn bwyty’ er mwyn cynyddu’r sancsiynau yn erbyn Iran a chael cefnogaeth gwledydd eraill i hynny.
Mae dau ddyn o Iran wedi cael eu cyhuddo mewn llys yn Efrog Newydd o gynllwynio i lofruddio llysgennad Sawdi Arabia mewn bwyty yn y ddinas.
Mae un o’r dynion yn ddinesydd Americanaidd a’r llall, meddai’r erlyniad, yn aelod o luoedd dirgel Iran, Quds. Maen nhw hefyd yn honni bod y cynllwyn wedi’i greu ym mhrifddinas Iran.
‘Croesi llinell’
Fe ymatebodd yr Ysgrifennydd Gwladol, Hillary Clinton, trwy gynyddu’r cyfyngiadau masnach a gwleidyddol yn erbyn Iran, gan ddweud bod y cynllwyn yn “croesi llinell”.
Fe fyddai’r Unol Daleithiau hefyd yn ceisio cael cefnogaeth gwledydd eraill yn erbyn llywodraeth Tehran, meddai.
Yn ôl y cyhuddiad, roedd Manssor Arbabsiar a Gholan Shakuri wedi ceisio llogi lladdwr o Mexico i lladd y llysgennad gyda bom yn y bwyty.