Mae dau gwb llew Barbary wedi’u grni mewn sw yn y Weriniarth Tsiec, ac maen nhw wedi carl croeso mawr gan fod y brîd wedi marw allan yn llwyr yn y gwyllt.

Fe anwyd y pâr – un gwryw ac un fenyw – ar Fai 10 ym mharc Dvur Kralove.

Maen nhw newydd gymryd eu camau cyntaf i mewn i’r ardal o’r sw lle mae eu mam, Khalila, yn byw. Dydi’r rhai bach ddim eto wedi cael enwau.

Ar un adeg, roedd y math Barbary o lew yn byw yn rhydd gng ngogledd Affrica, ond fe gafodd ei hela a’i ddifa o ganlyniad i weithredoedd dyn.

Fe laddwyd nifer fawr gan y gladiators Rhufeinig, cyn i helwyr mewn oesoedd diweddarach gyfrannu at y sefyllfa.

Y gred ydi i’r llew Barbary olaf gael ei ladd yn y gwyllt yn ystod y 1960au. Erbyn heddiw, mae llai na 100 ohonyn nhw’n cael eu magu a’u bridio mewn caethiwed.