Mae arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi rhybuddio Iran i fod yn ofalus ar ôl i’r wlad gyhoeddi ei bod yn cynyddu faint o wraniwm mae’n storio.

Cyhoeddodd Iran ei bod wedi torri’r cyfyngiad sydd wedi cael ei osod gan Gytundeb Niwclear 2015 sydd wedi rhoi mwy o bwysau ar Ewrop i ddarganfod datrysiad i sancsiynau’r Unol Daleithiau sy’n atal gwerthiannau olew Tehran.

Ond mae dyfodol y cytundeb hwnnw yn parhau i fod yn ansicr. Roedd Donald Trump wedi tynnu’r Unol Daleithiau allan o’r cytundeb y llynedd.

Fe all penderfyniad diweddar Iran i gynyddu ei gynhyrchiant wraniwm gael ei ddadwneud ond mae Ewrop wedi methu ymateb, a hynny wedi iddynt gael rhybudd 60 diwrnod gan Iran.

Yn y cyfamser mae arbenigwyr yn poeni y gall bethau waethygu. Roedd Donald Trump ar fin ymosod ar Iran ar ôl iddyn nhw saethu drôn ei fyddin i lawr.

“Mae Iran yn gwneud llawer o bethau drwg, mae’n rhaid iddyn nhw fod yn ofalus,” meddai Donald Trump.

Mae Japan wedi datgan eu “pryderon difrifol” am y sefyllfa yn Iran, tra bod yr Undeb Ewropeaidd yn ystyried cynnal cyfarfod argyfwng am y mater.