Mae Gogledd Corea yn cyhuddo myfyriwr o Awstralia a gafodd ei ryddhau gan yr awdurdodau’r wythnos ddiwethaf, o ysbïo a lledaenu propaganda gwrth-Pyongyang.

Roedd Alek Sigley yn y ddalfa am fwy nag wythnos ar amheuaeth o roi lluniau a deunydd arall i’r cyfryngau.

Cafodd ei alltudio ddydd Iau (Gorffennaf 4) ar ôl gofyn am faddeuant, ond dydy e ddim wedi trafod ei gyfnod yn y ddalfa.

Fe fu’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Pyongyang ac yn gweithio fel tywysydd teithiau cyn diflannu oddi ar y cyfryngau cymdeithasol heb roi gwybod i’w deulu.

Mae’r awdurdodau’n dweud ei fod e wedi camddefnyddio’i statws fel myfyriwr, ond fe gafodd ei ryddhau ar ôl i ddiplomyddion Sweden ymyrryd yn yr achos.

Cyfryngau cymdeithasol

Tra ei fod e’n fyfyriwr, fe fu Alek Sigley yn rhannu manylion am ei fywyd yn y ddinas ar ei dudalennau personol a’i wefan deithio.

Fe fu’n herio ystrydebau am Ogledd Corea, ac yn brolio’i ryddid fel myfyriwr.

Fe fu’n ysgrifennu sawl erthygl ar gyfer cyfryngau’r byd gorllewinol hefyd, ond doedd e ddim yn feirniadol o’r wlad yn aml.