Mae penaethiaid yr Undeb Ewropeaidd yn parhau i geisio dewis arweinwyr newydd ar ôl etholiadau mis Mai, gyda thrafodaethau’n parhau tan 11 o’r gloch neithiwr (Dydd Sul, Mehefin 30).

Mae’r sosialydd o’r Iseldiroedd, Frans Timmerman, yn dal yn cael ei weld fel y dyn i olynu Jean-Claude Junker fel arweinydd y Comisiwn Ewropeaidd.

Daw hyn er gwaethaf pryderon gan rai o fewn grŵp Plaid y Bobol – Democratiaid Cristnogol ynghylch rhoi’r rôl i floc y Sosialwyr a’r Democratiaid.

Penderfyniad arall sydd angen ei wneud yw dewis y person i olynu Donald Tusk – llywydd y Cyngor Ewropeaidd.

Mae’n rhaid i’r dewis hwnnw ystyried gwleidyddiaeth y person, daearyddiaeth, cydbwysedd y Dwyrain a’r Gorllewin, y de a’r goledd, maint poblogaeth a rhyw.

Fe ddylai arweinwyr sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd gynrychioli holl aelodau’r Undeb Ewropeaidd yn niwtral ar lefel rhyngwladol ac ym Mrwsel.

Fe fydd cyfnod Donald Tusk a Jean-Claude Junker fel llywyddion yn dod i ben yn yr Hydref.