Mae Fietnam a’r Undeb Ewropeaidd wedi llofnodi cytundeb masnach rydd, gan agor y drws i ragor o gytundebau tebyg gydag un o’r gwledydd gweithgynhyrchu mwyaf yn ne-ddwyrain Asia.

Cafodd ei lofnodi gan Cecilia Malmstrom ar ran yr Undeb Ewropeaidd, a Tran Tuan Anh, gweinidog masnach Fietnam yn Hanoi.

Fe fydd yn dileu 85% o’r holl dariffau ar nwyddau rhwng Fietnam a gwledydd yr Undeb Ewropeaidd ar unwaith, gyda’r 15% sy’n weddill yn cael ei ddileu dros y saith mlynedd nesaf.

Mae’r cytundeb yn golygu “diwrnod arbennig” i Fietnam, meddai Nguyen Xuan Phuc, prif weinidog Fietnam.

Yn y cyfamser, bydd Fietnam yn dileu 49% o’r trethi mewnforio ar allforion yr Undeb Ewropeaidd fel rhan o’r cytundeb pan ddaw i rym.

Bydd y gweddill yn cael ei ddileu dros y degawd nesaf.