Mae gorymdeithiau ar y gweill yn Khartoum, prifddinas Sudan, gyda phwysau ar y lluoedd arfog i drosglwyddo grym i’r bobol gyffredin.

Mae’r gorymdeithiau’n cael eu cynnal union 30 o flynyddoedd ers y gwrthdystiad a ddaeth ag Omar al-Bashir i rym yn 1989.

Dyna’r tro diwethaf i lywodraeth y wlad gael ei ethol.

Cafodd Omar al-Bashir ei symud o’i swydd gan y lluoedd arfog ym mis Ebrill yn dilyn protestiadau.

Mae rhybudd i brotestwyr y bydd yn rhaid iddyn nhw dalu am unrhyw ddifrod yn ystod y protestiadau.