Fe fydd Donald Trump a Kim Jong Un yn cyfarfod am y trydydd tro heddiw, wrth iddyn nhw ddod ynghyd ar y ffin rhwng De a Gogledd Corea.

Byddan nhw’n cyfarfod ym mhentref Panmunjom, wrth i Donald Trump awgrymu y byddai’n barod i fod yr Arlywydd Americanaidd cyntaf erioed i gamu i mewn i Ogledd Corea.

Mae lle i gredu y bydd Donald Trump hefyd yn cyfarfod â milwyr America a De Corea yn ystod ei ymweliad.

Mae’n dweud bod y berthynas â De Corea wedi gwella cryn dipyn ers y cyfarfod cyntaf yn Singapôr, ac nad oes “perygl” bellach.

Ei nod nesaf fydd ceisio heddwch niwclear â Gogledd Corea, meddai.