Mae dynes wnaeth ffugio beichiogrwydd a chynhyrfu wrth i ddiwrnod genedigaeth ddod yn nes wedi ymosod ar ddynes feichiog  gyda bat pêl fas, wedi torri  ffetws o’i chroth gan ei lladd hi ynghyd a’i baban, meddai dogfennau heddiw.

Mae Annette Morales-Rodriguez, 33, yn wynebu cyhuddiad o ddynladdiad bwriadol tra’n arfog a dynladdiad baban oedd heb ei eni yn dilyn marwolaeth Maritza Ramirez-Cruz a’i bachgen bach.

Mae Morales-Rodriguez yn wynebu cyfnod carchar oes os caiff ei chanfod yn euog.

Fe wnaeth ymddangos yn y llys am gyfnod byr yn Milwaukee wrth i’r barnwr ddatgan fod ei mechnïaeth yn costio un miliwn o ddoleri (£640,000).

Yn ôl y dogfennau cyfreithiol, roedd Morales-Rodriguez wedi dweud wrth swyddogion heddlu bod ei chariad eisiau bachgen ond nad oedd hi’n gallu beichiogi.

Roedd wedi dweud wrtho ei bod yn feichiog, ond wedi dechrau cynhyrfu wrth i ddiwrnod  y genedigaeth ddod yn nes.

Roedd wedi dweud wrth swyddogion heddlu ei bod wedi cynllunio am bythefnos i ddarganfod dynes feichiog, i gymryd y babi ac i’w wneud yn blentyn iddi hi.

Roedd wedi dweud wrth yr heddlu ei bod yn ceisio efelychu trefn yr oedd wedi’i weld ar y Discovery Channel. Ond, pan dynnodd y ffetws allan, nid oedd yn anadlu, meddai.

Bydd gwrandawiad llys rhagarweiniol ar 19 Hydref.