Mae cannoedd o ddiffoddwyr tân yn ceisio dod a thanau gwyllt yng ngogledd ddwyrain Sbaen o dan reolaeth.

Mae’r tanau wedi lledaenu dros ardal o 5,500 hectar (13,590 acer) ac wedi gorfodi 53 o drigolion i adael eu cartrefi.

Mae 120 o arbenigwyr wedi ymuno a diffoddwyr lleol sydd wedi bod yn gweithio drwy’r nos i reoli’r tanau ger Afon Ebro.

Dywedodd y gweinidog rhanbarthol Miquel Buch mai dyma’r tanau gwaethaf yn rhanbarth Catalwnia ers dau ddegawd.

Daw’r tanau wrth i dywydd poeth effeithio gwledydd ar draws Ewrop. Mae’r awdurdodau wedi rhybuddio y gall y tymheredd godi i 40C (104F) mewn rhannau o’r cyfandir dros y dyddiau nesaf.