Mae lluoedd sydd â chefnogaeth y Cenhedloedd Unedig wedi meddiannu tref sydd rhai milltiroedd i ffwrdd o brifddinas Lybia.
Mae rhyfel cartref wedi bod yn mynd rhagddo yn y wlad hon ers 2014, ac ar hyn o bryd mae’r rhan fwyaf o’r wlad ym meddiant Byddin Genedlaethol Lybia (BGL) a’u cynghreiriaid.
Llywodraeth Cydsyniad Cenedlaethol yw eu gelyn pennaf yn y rhyfel yma, â nhw sydd wedi derbyn sêl bendith y Cenhedloedd Unedig.
Bellach maen nhw wedi cipio Gharyan sydd 62 milltir o Tripoli – prifddinas y wlad, ac un o’r ardaloedd sydd eisoes yn eu meddiant.
Mae’r cam yn ergyd i BGL gan ei fod yn amharu ar eu gallu i gludo nwyddau rhyfel rhwng eu tiriogaethau.
Mae Lybia wedi profi cyfnodau hir o drais ers i’r unben Muammar Gaddafi gael ei ddisodli.