Mewnfudo, yr economi ac iechyd – rhain oedd y prif bynciau trafod yn ystod dadl deledu gyntaf y Democratiaid.

Mae’r blaid yn ceisio dod o hyd i ymgeisydd a all ddisodli’r Arlywydd Donald Trump yn etholiad arlywyddol 2020, a bellach mae 25 o wleidyddion wedi taflu’u henwau i’r het.

Bydd cyfres o ddadleuon teledu yn cael eu cynnal yn yr Unol Daleithiau, ac ymhlith y 10 ymgeisydd a aeth benben â’i gilydd neithiwr (Mehefin 27) roedd sawl Seneddwr.

Y Seneddwraig, Elizabeth Warren, wnaeth y jobyn orau ohoni yn ôl sylwebwyr, ac yn ystod y rhaglen dywedodd bod angen newid economi’r Unol Daleithiau “yn llwyr”.

“Pwy sydd yn elwa dan yr economi yma?” meddai. “Haen denau iawn o bobol ar y top sy’n elwa ohono. Dyna sut dw i’n gweld pethau.”