Mae Seare Mekonnen, pennaeth lluoedd arfog Ethiopia, wedi cael ei saethu’n farw gan swyddog diogelwch yn ei gartref yn Addis Ababa.

Cafodd cyn-gadfridog arall oedd yn ymweld â fe ei ladd neithiwr (nos Sadwrn, Mehefin 22) hefyd.

Yn gynharach yn y dydd, roedd Abiy Ahmed, prif weinidog y wlad, wedi dweud bod y llywodraeth wedi atal ymgais gan y fyddin i gipio grym oddi ar y llywodraeth yn rhanbarth Amhara y wlad.

Cafodd nifer o bobol eu lladd a’u hanafu yn y digwyddiad hwnnw.

Ers iddo gael ei ethol y llynedd, mae Abiy Ahmed wedi wynebu sawl ymgais i gipio grym oddi arno.