Mae Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn gohirio’r weithred o symud mewnfudwyr anghyfreithlon o’r wlad.

Dywedodd mewn neges ar Twitter ddoe (dydd Sadwrn, Mehefin 22) y byddai’n gohirio am bythefnos er mwyn rhoi amser ar gyfer trafodaethau ar fater y ffin rhwng yr Unol Dalethiau a Mecsico.

Ond yn ôl swyddogion ei weinyddiaeth, fe benderfynodd ohirio am fod manylion y cynllun wedi cael eu rhyddhau i’r wasg, a bod hynny’n peryglu’r cyfan.

Roedd disgwyl i’r symud ddechrau heddiw, wrth i bobol ddechrau derbyn gorchymyn i adael y wlad, gan gynnwys y rhai y cafodd eu hachosion eu clywed ar frys yn y llysoedd.

Ddechrau’r wythnos ddiwethaf, dywedodd Donald Trump y byddai’r gwaith yn dechrau’n fuan i symud “miliynau” o fewnfudwyr.