Mae miloedd o bobol yn cymryd rhan mewn protestiadau amgylcheddol ger un o lofeydd mwya’r Almaen ym mhentref Hochneukirch.

Daw’r brotest ddau ddiwrnod ar ôl i arweinwyr Ewrop fethu â dod i gytundeb er mwyn sicrhau bod economi’r bloc yn garbon niwtral erbyn 2050.

Mae cannoedd o blismyn yn ceisio rheoli’r sefyllfa ond mae’r protestwyr yn mynnu bod rhaid rhoi pwysau ar y llywodraeth.

Dywedodd Angela Merkel, Canghellor yr Almaen, yn ddiweddar ei bod hi o blaid sicrhau economi carbon niwtral i’r wlad, sy’n golygu na fyddai rhagor o nwyon tŷ gwydr yn cael eu rhyddhau i’r amgylchedd.