Mae cwmni awyrennau Etihad Airways yn dweud y byddan nhw’n cadw draw o ofod awyr Iran yn sgil y ffrae ddiweddar tros Hormuz a Gwlff Oman.

Mewn datganiad, mae’r cwmni’n dweud y byddan nhw’n defnyddio llwybrau eraill am y tro ar gyfer teithiau i mewn ac allan o Abu Dhabi.

Maen nhw’n rhybuddio y bydd hyn yn achosi cryn oedi i rai teithwyr.

Mae nifer o gwmnïau’n cadw draw o’r ardal ar ôl i Iran saethu drôn Americanaidd i lawr, gyda rhybudd y gallai awyrennau masnachol gael eu targedu’n ddamweiniol.

Mae Qantas, British Airways, KLM, Emirates, Lufthansa, Malaysia Airlines a Singapore Airlines eisoes yn cadw draw o ofod awyr Iran.

Mae Tehran yn wfftio’r pryderon.