Roedd yr Unol Daleithiau wedi paratoi ar gyfer ymosodiad milwrol ar Iran i ddial ar ôl i ddrôn gael ei ddifa – ond cafodd yr ymosodiad ei ganslo ar y funud olaf, yn ôl swyddog o’r Unol Daleithiau.

Yn ôl y New York Times, roedd yr Arlywydd Donald Trump wedi cymeradwyo’r ymosodiad cyn penderfynu ei ganslo oriau’n unig cyn ei lansio.

Nid oes gwybodaeth ynglŷn â pha mor bell oedd y broses o baratoi ar gyfer yr ymosodiad wedi mynd, ond ni chafodd unrhyw daflegryn ei thanio.

Cafodd yr ymosodiad ei ganslo tua 7.30 neithiwr (nos Iau, Mehefin 20), yn dilyn diwrnod pan fu Donald Trump yn trafod strategaeth Iran gydag ymgynghorwyr diogelwch ac arweinwyr y Gyngres.

“Camgymeriad mawr”

Yn gynharach yn y dydd dywedodd Donald Trump bod Iran “wedi gwneud camgymeriad mawr,” wrth saethu’r drôn dros gulfor Hormuz.

Mae tensiynau wedi cynyddu ers i Iran gyfoethogi eu lefelau wraniwm o hyd at 20%, gan fynd yn groes i gytundeb niwclear Tehran.

Ers hynny mae’r Unol Daleithiau wedi anfon mil o filwyr i’r Dwyrain Canol.

Nawr mae’r Undeb Ewropeaidd yn bwriadu cynnal cyfarfod ar gytundeb niwclear Iran yn Fiena ar Fehefin 28.

Mae’r cytundeb wedi dod o dan bwysau enfawr ers i’r Unol Daleithiau dynnu yn ôl o’r cytundeb y llynedd.