Mae o leiaf 38 o bobol wedi marw yn dilyn ymosodiadau mewn pentrefi ger ffin Mali â Burkina Faso.

Yn ôl llywodraeth y wlad fe ddigwyddodd y trais ddydd Llun (Mehefin 17) ym mhentrefi’r grŵp ethnig Dogon – Gangfani a Yoro – ac roedd yr ymosodwyr yn perthyn i filisia grŵp ethnig Peuhl.

Mae tensiynau wedi cynyddu rhwng y ddau grŵp ers i ymosodiad yn un o bentrefi Peuhl ladd tua 160 o bobol. 

Yn gynharach y mis hwn hefyd lladdwyd 35, y mwyafrif ohonyn nhw’n blant, mewn ymosodiad ar bentref arall Dogon.