Mae daeargryn wedi taro gogledd-orllewin Japan gan achosi anafiadau i 21 o bobol a gorfodi eraill i symud o ardaloedd ar hyd yn arfordir.

Mae pobol wedi dychwelyd i’w gwaith fore heddiw (dydd Mercher, Mehefin 19), gyda threnau yn rhedeg a’r cyflrnwad trydan wedi’i adfer.

Does dim arwydd o ddifrod difrifol wedi’r cryndod, a chafodd rhybudd swnami ei godi ar ôl dwy awr a hanner.

Yn ôl Asiantaeth Meteoroleg Japan fe darodd y daeargryn arfordir gorllewinol Yamagata, tua 30 milltir i’r de o ddinas Sakata.