Mae dwsin o bobol wedi marw a 134 wedi’u hanafu mewn daeargryn yn ninas Yibin yn Tsieina.

Yn ôl swyddfa wasg y ddinas mae 73 o dai wedi cwympo hefyd ar ôl i ddaeargryn yn mesur 6.0, ac un arall 5.1, daro rhanbarth Sichuan yn hwyr neithiwr (nos Lun, Mehefin 17).

Dywed Gweinidogaeth Rheoli Argyfwng Tsieina bod cannoedd o ddiffoddwyr tân wedi cyrraedd bore heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 18) ac wedi achub wyth o bobol.

Bu’n rhaid i ysbyty yn sir Changning drosglwyddo ei holl gleifion oherwydd difrod i’r adeilad.