Mae’r Unol Daleithiau yn anfon tua 1,000 o filwyr ychwanegol i’r Dwyrain Canol i ddelio â’r “bygythiadau cynyddol” yn Iran.

Ymhlith y rhain mae swyddogion diogelwch a milwyr ychwanegol fydd yn hel gwybodaeth ac yn gwylio’r ardal.

Mae’r penderfyniad yn rhan o becyn o opsiynau gan yr Unol Daleithiau, sy’n cynnwys cymaint â 10,000 o luoedd, taflegrau, awyrennau a llongau.  

Daw’r penderfyniad diweddaraf wrth i Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Mike Pompeo, geisio darbwyllo arweinwyr Asia ac Ewrop mai Iran oedd y tu ôl i’r ymosodiadau honedig ar danceri olew.

Fe gyhoeddodd Iran ddoe y byddai’n mynd heibio i’w chyfyngiad storio wraniwm sydd wedi ei osod gan gytundeb niwclear Tehran, gan gynyddu tensiynau yn y Dwyrain Canol.