Fe fydd Iran yn torri’r cyfyngiad storio wraniwm o fewn y deg diwrnod nesaf, yn ôl llefarydd ar ran asiantaeth atomig y wlad.

Cafodd y cyfyngiad ei osod o dan gytundeb niwclear rhwng Tehran a gwledydd rhyngwladol eraill.

Fe rybuddiodd Behrouz Kamalvandi hefyd y gall Iran gyfoethogi eu lefelau wraniwm o hyd at 20%, a fyddai’n mynd yn groes i gytundeb Tehran.

Daw’r cyhoeddiad wrth i weinidogion tramor yr Undeb Ewropeaidd gwrdd ym Mrwsel, ac fe fydd yn rhoi mwy o bwysau ar Ewrop i greu telerau newydd ar gyfer cytundeb niwclear Iran a ddaeth i rym yn 2015.

Mae’r cytundeb wedi bod dan bwysau ers i’r Arlywydd Donald Trump dynnu’r Unol Daleithiau allan o’r cytundeb y llynedd gan osod sancsiynau economaidd llym ar Iran.

Ers hynny tydi Ewrop heb allu cynnig ffordd ymlaen i Iran ers y sancsiynau.

Mae’r penderfyniad gan Iran i gynyddu eu cyflenwad wraniwm wedi dod yn dilyn ymosodiadau honedig ar danceri olew yn y Dwyrain Canol – gyda Washington yn rhoi’r bai ar Iran.

 Y cytundeb

 Mae cytundeb niwclear Tehran yn dweud na chaiff Iran storio mwy na 300 kilogram o wraniwm.

Dywed Behrouz Kamalvandi y bydd Iran yn cynhyrchu tair gwaith hynny, gan olygu y bydden nhw’n mynd tu hwnt i’r cyfyngiad ar Fehefin 27.