Mae un person wedi’i saethu’n farw ac o leiaf saith arall wedi’u hanafu mewn parti graddio yn ninas Philadelphia yn yr Unol Daleithiau.

Dywed gorsaf deledu KYW-TV y ddinas bod y saethu wedi digwydd ychydig ar ôl 10.30yh nos Sul (Mehefin 16).

Cafodd pedwar o bobol rhwng 15 a 17 oed eu saethu yn eu coesau a chafodd pedwar oedolyn yn eu hugeiniau hefyd eu hanafu.

Nid yw’r awdurdodau wedi cyhoeddi enw’r person fu farw ac nid does unrhyw un wedi cael eu harestio hyd yn hyn.