Mae Mohammed bin Salman, tywysog coronog Sawdi Arabia, wedi cyhuddo Iran o fod yn gyfrifol am ymosodiadau ar danceri olew yn Hormuz.
Mae’n ategu sylwadau’r Unol Daleithiau am yr ymosodiadau, gan ddweud y bydd y wlad yn ymateb i unrhyw fygythiadau i’w diogelwch wrth i densiynau rhwng y gwledydd gynyddu.
Mae’r Unol Daleithiau’n dweud bod ganddyn nhw ffotograffau sy’n dangos mai Iran oedd yn gyfrifol am dynnu ffrwydron allan o dancer o Siapan.
Ymateb y tywysog coronog
Mae Mohammed bin Salman yn honni bod Iran wedi dangos amharch i Siapan yn ystod ymweliad yr wythnos ddiwethaf.
Ond dydy e ddim wedi cynnig unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r hyn mae e’n ei ddweud.
“Yn Tehran mae’r broblem, unman arall,” meddai.
“Iran yw’r rhai sy’n cynyddu yn y rhanbarth o hyd, gan ymosod yn frawychol a throseddwyr yn ymosod naill ai’n uniongyrchol neu drwy filwyr.”
Mae Iran yn gwadu mai nhw sy’n gyfrifol am yr ymosodiadau, gan roi’r bai ar awdurdodau’r Unol Daleithiau am fod yn y rhanbarth.
Mae’r tensiynau wedi cynyddu ers i’r Unol Daleithiau osod sancsiynau ar Iran am dynnu allan o gytundeb â gwledydd y gorllewin.