Mae degau o filoedd o bobol ar strydoedd Hong Kong i brotestio yn erbyn cyfreithiau estraddodi arfaethedig y wlad.

Fe fu’r dorf yn galw am ymddiswyddiad Carrie Lam, prif weithredwr y llywodraeth wrth iddyn nhw orymdeithio tuag at bencadlys y llywodraeth.

Cyhoeddodd hi ddoe (dydd Sadwrn, Mehefin 15) ei bod hi’n gohirio’r cynlluniau, ond mae’r protestwyr yn galw am gefnu arnyn nhw’n llwyr.

Mae pryderon ar hyn o bryd am berthynas y wlad â Tsieina.

Yn ystod y protestiadau, fe fu’r protestwyr yn talu teyrnged i ddyn fu farw ddoe, wrth iddo godi baner ar sgaffaldau.

Mae’r protestwyr yn galw am gynnal streic yfory (dydd Llun, Mehefin 17), gydag undebau llafur, cymdeithasau athrawon a grwpiau eraill eisoes wedi ymrwymo.

Fe fu protestiadau dros yr wythnos ddiwethaf yn rhai treisgar, gyda’r heddlu’n defnyddio nwy ddagrau a bwledi rwber i dawelu torfeydd.