Mae o leiaf ddeg o blismyn Cenia wedi cael eu lladd ar ôl i’w cerbyd daro dyfais ffrwydrol gerllaw ffin y wlad â Somalia.

Roedden nhw’n rhan o grŵp a oedd yn chwilio am eithafwyr arfog a oedd wedi herwgipio aelodau wrth gefn o’r heddlu.

Er nad oes neb wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad, mae’r grŵp eithafwyr al-Shabab o Somalia yn targedu lluoedd diogelwch Cenia yn gyson.