Mae bwyta cig coch a chig wedi’i brosesu yn cynyddu’r risg o farw’n ifanc, yn ôl.arbenigwyr sy’n ceisio annog pobol i droi at bysgod a llysiau.

Gall cyfnewid cig coch am brotinau iachach fel wyau, cnau a physgod arwain at fywyd hirach, meddai’r cyngor sydd wedi’i gyhoeddi yn y British Medical Journal (BMJ).

Gofynnwyd i bobol faint yr oeddent wedi ei fwyta bob blwyddyn ar o wahanol fathau o fwydydd yn gynnwys cigoedd coch a chig wedi’i brosesu (fel ham, cŵn poeth a chig moch), cnau, pysgod, wyau, grawn cyflawn, llysiau a chyw iâr a thwrci.

Dangosodd y canlyniadau fod gan bobol a fu’n bwyta mwy o gig coch a chig wedi’i brosesu risg uwch (13%) o farw yn ystod yr wyth mlynedd nesaf.

Roedd pobol a oedd yn cyfnewid am fwydydd iachach, fel wyau, cyw iâr a physgod, yn mwynhau bywyd hirach.