Mae 49 o bobol wedi marw a 14 ar goll ers i lifogydd daro de Tsieina ar ddechrau mis Mehefin.

Yn ôl yr awdurdodau, cafodd mwy na 7,000 o gartrefi eu dinistrio yn ystod y tywydd garw, a bu rhaid i 300,000 o bobol ffoi i ddiogelwch.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywed y pwyllgor sy’n delio ag argyfyngau fod y drychineb yn mynd i gostio cyfanswm o 10bn yuan.

Ychwanega’r pwyllgor fod y llifogydd a’r tirlithriadau wedi effeithio ar fwy na 4.5m o bobol mewn wyth rhanbarth.